Ynglŷn â’r Gaplaniaeth

P'un a ydych yn fyfyriwr ym Mhontypridd, Caerdydd neu gampws Dinas Casnewydd, mae’r Gaplaniaeth ar gael i chi fel gwasanaeth agored sy'n cadarnhau.  Rydym yn croesawu pobl i gyfranogi'n llawn waeth beth fo'u hil, lliw, rhyw, oedran, cenedligrwydd, amgylchiadau economaidd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, gallu corfforol neu feddyliol neu gyflwr emosiynol. 

Mae pobl yn dod o bob lliw a llun ac mae Prifysgol De Cymru yn dapestri cyfoethog o lawer o wahanol ddiwylliannau. Yr ydym yn ymwneud â galluogi pobl i gwrdd â'i gilydd a chreu cymuned. Tra'n gwreiddio yn y traddodiad Cristnogol, rydym yn parchu ffydd pawb ac rydym yn parchu meddwl ac archwiliad y rhai nad ydynt wedi ymrwymo i unrhyw ffydd.

Ffydd, Diwylliant, Rhyw neu Gyfeiriadedd Rhywiol

Mae’r Gaplaniaeth ym Mhrifysgol De Cymru yn wasanaeth agored a chynhwysol i'r gymuned gyfan.  Mae'n cynnig cymorth cyfrinachol ac anfeirniadol i staff a myfyrwyr waeth beth fo'u ffydd, eu diwylliant, eu rhyw neu eu cyfeiriadedd rhywiol.  Mae cofleidio amrywiaeth yn un o egwyddorion sylfaenol ethos y Gaplaniaeth. Os oes angen i chi siarad â rhywun am ddelio â'ch rhywioldeb neu ymateb pobl eraill iddo, problemau wrth ddod allan, ac ati, rydym yn addo eich parchu fel yr ydych a gwneud ein gorau glas i'ch cefnogi.

Mae'r Gaplaniaeth yn cynnig:

  • croeso cyfeillgar: galwch i mewn yn y TŶ Cwrdd, neu cysylltwch â ni ar unrhyw adeg drwy e-bost neu ffoniwch
  • clust i wrando: Mae croeso i chi siarad yn gyfrinachol gyda Chaplan am unrhyw broblemau, cyfyng-gyngor moesegol, ansicrwydd a chwestiynau bywyd a all fod gennych.  Nid oes angen aros i argyfwng ddigwydd – dewch i gael sgwrs ar unrhyw adeg. Rydym yn addo gwrando heb farnu, helpu pryd bynnag y gallwn, a gwneud pob ymdrech i fod yno i chi pan fyddwch ein hangen.
  • gwybodaeth am grwpiau ffydd: gallwch ein ffonio gydag ymholiadau am addoldai yng nghyffiniau'r brifysgol neu ddod o hyd i siopau a marchnadoedd sy'n darparu ar gyfer anghenion crefyddol.
  • y Tŷ Cwrdd: cartref y Gaplaniaeth ar gampws Trefforest a'r ganolfan ar gyfer llawer o'i weithgareddau. Mae'n lle i ymlacio, eistedd yn dawel neu drefnu partïon, digwyddiadau a chyfarfodydd gyda ffrindiau.
  • cyfleoedd i addoli: fe'u trefnir gan y Gaplaniaeth a chan wahanol grwpiau o fyfyrwyr o wahanol grefyddau drwy gydol y flwyddyn. Beth bynnag yw eich ffydd, rydym yma i'ch helpu. I gael gwybod mwy gweler Ymarfer Eich Ffydd.
  • seminarau a grwpiau trafod: mae'r Gaplaniaeth a grwpiau gwahanol o staff a myfyrwyr yn trefnu amrywiaeth o gyfleoedd i bobl rannu syniadau a thrafod pynciau. Gallwch naill ai ymuno â grŵp, dechrau un, neu awgrymu syniad i'r Gaplaniaeth ei ystyried.
  • gweithgareddau cymdeithasol: trwy gydol y flwyddyn mae'r Gaplaniaeth yn trefnu nifer o weithgareddau cymdeithasol hwyliog.  Mae’r Tŷ Cwrdd hefyd yn cynnal llawer o ddigwyddiadau a drefnir gan grwpiau myfyrwyr.  Os hoffech drefnu rhywbeth cysylltwch â'r Gaplaniaeth.  Os ydych am gael gwybod am ddigwyddiadau sydd i ddod, ewch i Digwyddiadau.
  • cyfleoedd gwirfoddoli: fel gwirfoddolwr bydd amrywiaeth eang o ffyrdd y gallwch ddod yn rhan o'n tîm. Rydym yn ceisio cynnig cyfleoedd cyffrous a hwyliog i chi ddod yn rhan o'n gwaith yn gyson. I gael gwybod mwy gweler Gwirfoddoli yn y Tŷ Cwrdd.