Mae’r Tŷ Cwrdd yn fan lle gallwch ymlacio, anghofio pwysau bywyd Prifysgol am ychydig, a mwynhau bod gyda phobl eraill, neu os yw'n well gennych, eistedd yn dawel ar eich pen eich hun. Darllenwch ein cylchlythyr i ddysgu mwy am y Gaplaniaeth yn Y Tŷ Cwrdd.
Mae’r Tŷ Cwrdd ar gampws Trefforest. Yr ydym ar ffin ogleddol y campws, ychydig i fyny'r allt o adeilad Ferndale a chlwyd Brook Street. Ar agor o 9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod y tymor, ac o 11am tan 3pm yn ystod y gwyliau. Mae hefyd ar agor gyda'r nos ar gyfer digwyddiadau arbennig ac archebion rheolaidd ar gyfer grwpiau. Mae croeso cynnes yn eich aros.
Yma rydym yn cynnig y traddodiad Cymreig o gynhesrwydd, lletygarwch a chroeso i gymuned gyfan y Brifysgol. Mae'n fan lle y gall pobl o bob cenedl, diwylliant, ffydd a ffordd o fyw ymlacio, sgwrsio, dadlau neu weddïo gyda'i gilydd, dysgu parch tuag at y naill a'r llall, a thyfu: yn syml, lle i gyfarfod.
Nid yw’r Tŷ Cwrdd yn lle niwtral lle y mae'n rhaid i bobl adael eu credoau a'u hunigoliaeth wrth y drws, ond yn lle cydfuddiannol lle gall pobl ddod fel hwy eu hunain i weld eraill fel hwy eu hunain.
Gall cwrdd â phobl o ddiwylliant neu set o gredoau cwbl wahanol fod yn heriol ac yn anghyfforddus, ond gall fod yn gyffrous ac yn hwyl hefyd. Mae'n rhan bwysig o'r hyn yw addysg..
Mae’r Tŷ Cwrdd yn cynnig:
O bryd i'w gilydd mae’r Tŷ Cwrdd yn gartref i arddangosfeydd celf myfyrwyr. Beth am alw heibio a chael golwg.