Grŵp Y Tŷ Cwrdd

Mae grŵp y Tŷ Cwrdd yn agored i bob myfyriwr, o bob ffydd a’r rhai heb ffydd.  Mae iddo dri nod: 
  • annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn prosiectau ewyllys da sydd o fudd i eraill, o fewn Prifysgol De Cymru a thu hwnt 
  • annog myfyrwyr o wahanol gefndiroedd i feithrin perthynas gref a gwirioneddol â'i gilydd drwy weithgareddau cymdeithasol a digwyddiadau eraill, ac annog mwy o gyd-ddealltwriaeth rhwng pobl o wahanol gredoau 
  • gwella'r ymgysylltu rhwng myfyrwyr a'r gymuned leol.
Yn y gorffennol, mae grŵp y Tŷ Cwrdd, ynghyd â thîm y Gaplaniaeth, wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau megis prydau diolchgarwch a Nadolig, ffilm a nosweithiau karaoke, a thrafodaethau agored ar bynciau sy'n ymwneud â gwahanol ddiwylliannau, pobl a chymdeithasau.


Fe’i noddir a’i cefnogir gan y Gaplaniaeth ac mae’n cyfarfod yn rheolaidd yn y Tŷ Cwrdd. Mae pob aelod o'r grŵp wedi ymrwymo i barchu credoau a barn pobl eraill a'u trin â chwrteisi a pharch bob amser.



The Meeting House Group