Mae Prifysgol De Cymru yn gartref i amrywiaeth eang o ddiwylliannau a grwpiau ffydd ac mae'r Gaplaniaeth yn annog pawb i ymarfer eu crefyddau wrth weithio neu astudio yma.
Gall y Gaplaniaeth @ y Tŷ Cwrdd ddarparu cymorth, cyfleusterau gweddïo a chyngor ar faterion crefyddol i bawb sy'n chwilio amdano.
Mae Prifysgol De Cymru hefyd yn darparu canllawiau ar grefydd a chred ar gyfer myfyrwyr ac aelodau staff. Os teimlwch fod gennych unrhyw faterion yn ymwneud â'r ffordd y mae eich amserlen neu ofynion academaidd yn effeithio ar eich arferion crefyddol, cysylltwch â'r Gaplaniaeth.
Rydym hefyd yn credu y dylai pawb gael y rhyddid i archwilio ond rydym yn eich annog i ystyried y ffaith nad yw rhai grwpiau crefyddol yn chwarae mor deg ag eraill. Dylech ystyried y rhybudd iechyd crefyddol wrth ymuno â grwpiau newydd.
Mae mwy o wybodaeth am wahanol grefyddau, eu credoau a'u traddodiadau, a mannau addoliad a chyfleusterau eraill yn yr ardal leol - cysylltu â’r gaplaniaeth.
Mae lle ar gael bob amser yn y Tŷ Cwrdd ar gyfer gweddïo, naill ai yn unigol neu mewn grwpiau. Mae croeso i chi alw heibio a gofyn am ystafell, neu archebwch ymlaen llaw ar gyfer gweithgaredd grŵp.
Mae matiau gweddi ar gael yng Nglyn-taf ac yn Y Tŷ Cwrdd.
Dylai unrhyw un sy'n defnyddio'r cyfleusterau hyn barchu defnyddwyr eraill a'u hangen am le i weddïo. Os bydd amseru'n gwrthdaro, peidiwch â tharfu ar y rhai sydd eisoes yn defnyddio'r ystafell at ddibenion gweddïo. Dylech ymgynghori â Chaplan Prifysgol De Cymru gydag unrhyw ymholiadau.
Os ydych yn dymuno cael lle i weddïo yn yr Atriwm, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, neu Goleg Merthyr, cysylltwch â'r Gaplaniaeth.
I gael gwybodaeth am addoldai gwahanol grefyddau yn yr ardal, cysylltu â’r gaplaniaeth.