Gall bywyd yn y Brifysgol fod yn anodd, gyda therfynau amser, arholiadau, cysylltiadau, y busnes o ymdopi â bywyd mewn amgylchedd newydd oddi cartref. Mae cynnydd yn eich astudiaethau wedi’i gwella'n fawr os ydych yn gartrefol gyda chi eich hun a'ch byd. Mae eich helpu i gyflawni hyn yn flaenoriaeth i'r Gaplaniaeth, ac rydym yn cynnig ffyrdd gwahanol o wneud hynny.
Mae ystafell dawel, ddiarffordd yn y Tŷ Cwrdd lle mae croeso i chi eistedd bob amser. Dewch i mewn a gofyn am yr Ystafell Fyfyrio.
Mae ystafelloedd gweddïo a myfyrio ar bob campws.
Mae'r Caplaniaid bob amser ar gael ar gyfer sgwrs breifat a chyfrinachol ar unrhyw adeg. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw gofyn.
Yr ydym yn addo: peidio â'ch barnu; parchu a gwerthfawrogi'r hyn sy'n bwysig i chi; cydnabod bod eich bywyd cartref a'ch perthynas yn cael effaith bwysig ar eich bywyd yn y Brifysgol; ac i wneud popeth a allwn i'ch gweld pan fydd angen i chi ein gweld.
Ond does dim rhaid i chi aros i argyfwng ddigwydd. Dewch i'n gweld ni unrhyw adeg i siarad am unrhyw fater sy'n eich poeni chi.
Mae yna ystafelloedd bob amser yn y Tŷ Cwrdd lle gallwch ddod o hyd i gornel ddistaw i wneud ychydig o waith. Dewch i mewn a gofyn.
Mae'r adeilad wedi'i gyfarparu'n llawn â WiFi
Mae Caplaniaeth PDC yn eich gwahodd i brofi ein Hardal Dawel, i'ch helpu i ddarganfod heddwch a llonyddwch ar ganol wythnos waith brysur. Mae'n cynnig cyfle i ryddhau eich hun o bwysau a straen ac i fyfyrio, meddwl, neu’n syml 'bod' mewn awyrgylch o dawelwch heddychlon. Addas i bawb, waeth beth fo'u cred bersonol neu grefydd.